Da yw yr Arglwydd i bob dyn, A'i nodded sy'n dyciannol; Ac ar ei holl weithredoedd ef Daw nawdd o'r nef yn rasol. Can's graslawn yw ein Harglwydd ni, Ac o dosturi rhyfedd: Hwyr ac annyben yw i ddig, Llawnfrydig i drugaredd. Dy holl weithredoedd di a'th lwydd, O Arglwydd a'th glodforant; Dy wyrth pan welo dy saint di, Y rhei'ny a'th fendithiant. Gan sôn am drugaredd a gras Dy deyrnas a'i chadernid; Fel dyna'r gerdd sydd yn parhau Yn eu geneuau hyfryd. Breniniaeth yw'th freniniaeth fry A bery yn wastadol; A dy lywodraeth wir ddilŷs A erys yn dragwyddol. Wele, mae llygaid yr holl fyd Yn disgwyl wrthyd, Arglwydd; Tithau a'u porthi hwynt i gyd, Bawb yn ei bryd, yn ebrwydd. A phan agorech di dy law, O honi daw diwall-faeth; Yn ol ewyllys da fy Nuw Caiff pobpeth byw eu lluniaeth. Fy enaid traethed fendith rwydd, A mawl yr Arglwydd nefol; A phob cnawd rhoed i'w enw, y Sant, Ogoniant yn dragwyddol.Edmwnd Prys 1544-1623
Tonau [MS 8787]: Gwelir: Rhan I - Mi a'th fawrygaf di fy Nuw |
Good is the Lord to every man, And his refuge is successful; And over all his deeds Comes protection from heaven graciously. Since gracious is our Lord, And of wonderful mercy: Slow and ponderous he is to wrath, Resolute to mercy. All thy deeds shall prosper, O Lord and they shall praise thee; Thy wonder when thy saints see thee, They shall bless thee. Making mention of thy mercy and grace Thy reign shall be established; Thus music shall continue In their delightful mouths. A kingdom is thy kingdom above Which shall endure continuously; And thy governance truly unfailing Shall remain eternally. See, the eyes of the whole world are Waiting upon thee, Lord; It is thou who dost feed them all, Each in his time, immediately. And when thou openest thy hand, From it comes satisfying nourishment; According to thy good will, my God, All things living get their sustenance. My soul, let ready blessing be declared, And the praise of the heavenly Lord; And let all flesh give to his name, the Holy One, Glory eternally.tr. 2015,19 Richard B Gillion |
|